Dewiswch eich iaith

 

 

Yn Cefnogi y Gymuned

Amdano Ni

Grwp o unigolion sy'n wirfoddol yn codi arian er lles a gwellhad y pentref ydi Creigiau 23.

Yn ystod y flwyddyn rydym yn weithgar iawn yn hyrwyddo a trefnu gweithgareddau o fewn y pentref er enghraifft y carnifal, ymweliad Sion Corn a'r pentref i'r neuadd leol, taith gerdded ar Ddydd Sant Steffan, blasu gwin, a'r ddawns yn yr haf, ayb.

Rhoddir yr holl elw a godir o ganlyniad i'r gweithgareddau yn i'r pentref trwy law nifer o gymwynaswyr. Mae rhain yn cynnwys Ysgol Gynradd Creigiau, Mudiad y Sgowtiaid, Y cylch Chwarae, Cylch Feithrin, Neuadd y Pentref a nifer o sefydliadau eraill.

Os hoffech ofyn am gyfraniad ewch chysylltwch a ni.

Y Calendr Cymdeithasol

Mae'tr calendr cymdeithasol yn rhedag yn flynyddol o fis Mawrth tan Chwefror gan apwyntio cadeirydd newydd ar gyfer pob sesiwn.

Mae'tr calendr yn cynnwys 10 cinio bob mis ( heb gynnwys Gorffennaf ac Awst) ac fe cynhelir yng Nhlwb Golff Creigiau sydd wedi ei lleoli yng Nghanol y pentref.

Mae'r cyfarfod yn cynnwys pryd o fwyd a siaradwr . Gall pob aelod dod a gwestai gydag e (dibynnu ar rifau) . Felly os ydych newydd ddod i fyw i'r pentref ac heb gwrdd a llawer o bobl beth am ymuno a ni? Danfonwch e bost atom ac fe drefnwn i chi ddod i un on cyfarfodydd.

Mae'rr siaradwyr fel arfer yn siarad rhwng ugain a deugain munud ar bwnc o'iu dewis neu syniadau gennym ni.

Gall y siaradwyr amrywio o fobl o fyd y chwaraeon , gwleidyddion, athrawon, personoliaethau o fyd y teledu ,gweithwyr elusenol i rywun sy'n dangos brwdfrydedd am ei pwnc.

Erbyn hyn edrychir arni fel anrhydedd yw i gael gwahoddiad i dod atom i siarad.

Hanes Creigiau 23

Ffurfiwyd Creigiau 23 tua 1969-70 gan criw o wyr bonheddig oedd yn byw yn y pentref.

Rhoddwyd yr' enw yma i'r sefydliad gan mai 23 o aelodau oedd pan  ddechreuwyd ac mae'r enw wedi parhau ers hynny.

Ers y dyddiau hynny mae'r pentref wedi tyfu ac o ganlyniad rydym ninnau wedi tyfu gyda'r pentref ac bellach yn rhan bwysig iawn o'r gymuned.

 

Cyhoeddiadau

  • Fe fydd ein cyfarod nesaf a dydd Mawrth Rhagfyr 3ydd.