Dewiswch eich iaith

 

 

Yn Cefnogi y Gymuned

Taith Beic

 

CartenHftH

Llongyfarchiadau i Gerry, Chris ac Eurof a gwblhaodd daith feic Carten yn ddiweddar neu i'r rhai ohonom nad ydym yn feicwyr, o Gaerdydd i Ddinbych-y-Pysgod. Bu'r daith yn un gyffrous i Gerry a oedd â phroblem fecanyddol fawr ac fe'i gorfodwyd i ddargyfeirio i siop feiciau leol yn Abertawe i'w gael yn ôl ar y ffordd. Diolch byth ac ychydig oriau yn ddiweddarach roedd ar ei ffordd ac wedi cyrraedd Dinbych-y-pysgod cyn i'r bariau gau!! Yn ogystal â gwblhau'r daith y'n llwyddiannus fe lwyddon nhw i godi dros £1000 i elusen Breast Care Now.

I'r rhan fwyaf o bobl byddai hynny'n ddigon i reidio am ychydig, fodd bynnag, roeddent yn ôl ar y beic ychydig wythnosau'n ddiweddarach. Y tro hwn aeth y reid â nhw o Nantgarw i Aberhonddu ac yn ôl fel rhan o daith Head for the Hills a drefnwyd gan Ysbyty Felindre. Da iawn fechgyn!!